Joe Allen
Wolves 2      Abertawe 2

Mae tîm pêl-droed Abertawe wedi methu unwaith eto yn eu hymdrech i ennill gêm oddi cartref.

Roedd Abertawe yn edrych yn gyffyrddus hanner amser yn Molineux, diolch i ddwy gôl gan Danny Graham a Joe Allen.

Ond mi wnaeth Wolves frwydro nôl a sicrhau gêm gyfartal trwy sgorio dwy gôl hwyr.

Dyma adroddiad ein harbenigwr chwaraeon, Gwilym Dwyfor Parry:

Pwynt Cyntaf Oddi Cartref i’r Elyrch

Casglodd Abertawe eu pwynt cyntaf ar y ffordd yn erbyn Wolves heddiw diolch i gêm gyfartal 2-2, ond fydd hynny fawr o gysur i Brendan Rodgers a’i dîm wedi iddynt fod ar y blaen am ran helaeth o’r gêm yn Molineux.

Does dim dwywaith y dylai’r Elyrch fod yn dychwelyd i Gymru gyda’r tri phwynt wedi iddynt reoli’r gêm am dros 80 munud, ond rhaid oedd iddynt fodloni ar gêm gyfartal wedi i un o chwaraewyr rhyngwladol Cymru ddod oddi ar y fainc i Wolves a newid y gêm yn y 10 munud olaf.

 

Hanner Cyntaf Abertawe

Dim ond un tîm oedd ynddi yn yr hanner cyntaf a llwyddodd Joe Allen i orfodi arbediad da gan y Cymro, Wayne Hennessey yn y gôl i Wolves wedi 10 munud. Ond dim ond mater o amser oedd hi a daeth y gôl gyntaf i Danny Graham wedi 23 munud.

Cafwyd cyfnod da o bwyso gan Abertawe cyn i Mark Gower chwarae pêl hyfryd dros amddiffyn Wolves i gyfeiriad Graham, torodd yntau’r trap camsefyll cyn rheoli’n gampus a llithro’r bêl o dan Hennessey i roi’r Elyrch ar y blaen.

Roedd hi’n 2-0 wedi 35 munud diolch i Joe Allen a’i gôl gyntaf yn yr Uwchgynghrair. Roedd y gwaith adeiladu unwaith eto yn hynod effeithiol, yr ymwelwyr yn cadw’r bêl am gyfnod hir cyn i bêl hir Àngel Rangel o’r cefn ddod o hyd i Graham ar ochr dde’r cwrt cosbi, amserodd yntau ai bas ar draws y cwrt chwech i Allen yn berffaith a gorffennodd y Cymro’r symudiad yn daclus tu hwnt.

Rhwng y ddwy gôl hynny fe wnaeth Michel Vorm arbediad da o gic rydd Matthew Jarvis ond Abertawe oedd yn llwyr reoli’r gêm mewn gwirionedd.

Cyfleoedd i Abertawe

Dechrau yn ddigon tebyg a wnaeth yr ail hanner gydag Abertawe yn cael y cyfleoedd gorau. Arbedodd Hennessey ddwy ergyd o bell gan Allen ac yna Nathan Dyer. Yna toc cyn yr awr daeth cyfle gorau’r ail hanner i Scott Sinclair, croesiad hyfryd gan Rangel yn dod o hyd i Sinclair yn hollol rydd ar y postyn pellaf ond daeth Hennessey allan yn gyflym i’w atal.

Sinclair oedd chwaraewr gorau Abertawe a daeth yn agos ar ddau achlysur arall hefyd. Wedi 62 munud gwyrodd ei ergyd dros ben Hennessey ond dros ben y traws hefyd, cyn i’r Cymro arbed yn wych o ergyd arall gan yr asgellwr wedi 72 munud.

Y Bleiddiaid yn Taro’n ôl

Dylai bod Abertawe wedi rhoi’r gêm ym mhell o afael Wolves erbyn hyn a bu rhaid iddynt dalu’n ddrud am beidio â gwneud hynny diolch yn bennaf i gyfraniad yr eilydd, Sam Vokes. Gwnaeth yr ymosodwr yn dda iawn i droi ac ergydio yn y cwrt yn dilyn cic gornel wedi 83 munud, ac er i Vorm arbed ei ergyd ef roedd Kevin Doyle wrth law i roi’r bêl yn y rhwyd.

Prin yr oedd Wolves wedi bygwth gôl Abertawe cyn hyn ond dri munud yn ddiweddarach roeddynt yn gyfartal. Gwnaeth Jamie O’Hara yn dda iawn i ennill y bêl ar yr asgell chwith cyn pasio i Vokes, parhaodd O’Hara a’i rediad i’r cwrt cosbi ac amserodd Vokes y bas yn ôl iddo’n berffaith ac ergydiodd O’Hara yn gywir heibio i Vorm er mwyn torri calonnau’r Elyrch.

Colli dau bwynt yn hytrach nag ennill un a wnaeth Abertawe yn Molineux heddiw ond mae’r un pwynt hwnnw’n ddigon i’w codi i’r unfed safle ar ddeg yn y tabl am awr neu ddwy pryn bynnag.