Nigel Davies
Mae tîm rygbi’r Scarlets wedi sicrhau gwasanaeth yr asgellwr ifanc o Tonga, Viliame Iongi.

Dangosodd Iongi, sy’n 22 oed, ei ddoniau ym Mhencampwriaeth Rygbi’r Byd. Mae llawer wedi cymharu’r chwaraewr chwim â Shane Williams.

Mae hyfforddwyr Tonga yn ei ystyried fel un o’r cefnwyr mwyaf cyffrous sydd wedi dod i’r amlwg yn y tîm cenedlaethol ers dros ddegawd.

Meddai Prif Hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies, “Mae Iongi yn bendant yn argoeli i fod yn chwaraewr cyffrous i ni, ac mi wnaiff ei ddawn i ymosod siwtio steil ni a’r math o rygbi ryden ni am chwarae. Mae wedi creu argraff gyda’i gyflymdra, a bydd yn cynnig rhai opsiynau newydd i ni.”

Meddai Viliame Iongi, “Mae’n gyfle gwych i mi, a dwi nawr am gael y cyfle i chwarae yn Ewrop. Mae’r Scarlets yn chwarae rygbi gwych, a dwi’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r tîm.”