Mae cyn rheolwr Manchester City a Fulham, Mark Hughes, wedi dweud na fasa fo wedi cael unrhyw drafferth efo’r chwaraewr Carlos Tevez petai o’n parhau i fod yn rheolwr Manchester City.
Mae o’r farn mae steil unbenaethol ei olynydd fel rheolwr, Roberto Mancini, sy’n gyfrifol am y ffraeo sydd wedi bod yn y clwb.
Meddai mewn cyfweliadau â sawl papur newydd, “Dydw i ddim yn nabod y boi yn bersonol, ond o edrych arno o’r tu allan, mae’n dod drosodd fel unben. Mae rheoli yn y ffordd yma yn fwy anodd yn ein cyfnod cyfoes ni.
“Mae bod yn unben llwyr a pheidio â bod yn hyblyg o ran sut mae rhywbeth yn mynd i gael ei wneud, heb ddeall y gall eich penderfyniadau effeithio ar chwaraewyr yn anodd, gan eu bod nhw’n effeithio arnyn nhw.
“Os ydych yn rheoli fel hyn, mae gwrthdaro am ddigwydd.”
Ac wrth sôn am Tevez, sydd wedi cael ei gyhuddo o beidio â bod yn barod i chwarae i City mewn gêm yn erbyn Bayern Munich yng Nghynghrair y Pencampwyr, meddai Mark Hughes, “Wnes i ddim ei weld erioed yn ymddwyn yn wyllt. Fedra i ddim meddwl am un digwyddiad efo Carlos.
“Fasa fo ddim wedi digwydd o dan fy ngoruchwyliaeth i.”