Wrth i Gymru baratoi i groesawu’r Dreigiau glewion wnaeth frwydro mor galed ym Mhencampwriaeth Rygbi’r Byd gartre, mae cyn-asgellwr disglair Cymru, Gerald Davies, wedi dweud mai’r dechrau yw hyn i dîm rygbi Cymru, nid y diwedd.
Ar rifyn arbennig o’r rhaglen Scrum V ar y BBC neithiwr, dywedodd Gerald Davies, “I fi, dyma’r dechrau. Be da ni wedi ei gyflawni yma ydi’r dechreuad.”
Roedd colli’r gêm gynderfynol yn erbyn Ffrainc y Sadwrn diwethaf yn siom fawr, meddai. “Dwi byth wedi cael fy siomi gymaint – mi wnaeth e fwrw fy anadl i mas,” ychwanegodd. Roedd yn credu y dylai’r dyfarnwr wedi cymryd amser cyn gwneud penderfyniad am y tacl ar Vincent Clerc gan gapten Cymru, Sam Warburton. Carden felen fyddai wedi bod y dewis cywir yn y sefyllfa arbennig yna, meddai.
Er mai Seland yw’r ffefrynnau i ennill y Bencampwriaeth, mae Gerald Davies yn gobeithio y bydd tîm Ffrainc hefyd yn dangos eu doniau yn y ffeinal. “Efallai bod brwydr o’n blaenau ni dydd Sul,” meddai.