Y canolwr cyhyrog Jamie Roberts fu’n talu teyrnged i Shane Williams wedi iddo ffarwelio â Chwpan y Byd am byth gyda chais yn erbyn Awstralia.

Dyma oedd 58fed cais yr asgellwr 34 oed mewn crys coch, a ddaeth wrth i Gymru golli 21-18 yn erbyn Awstralia a dod yn bedwerydd yn y gystadleuaeth.

Er ei bod yn edrych yn debyg y bydd Shane Williams yn chwarae dros Gymru un waith eto, yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm fis Rhagfyr, mae ei gyd-chwaraewyr eisoes wedi bod yn talu teyrnged hael i yrfa ryngwladol sydd wedi mynd o nerth i nerth ers ei gwawrio yn y flwyddyn 2000.

“Mae wedi bod yn brofiad anhygoel cael chwarae yn yr un tîm â Shane,” meddai Jamie Roberts, un o chwaraewyr gorau Cwpan y Byd.

“Wnes i dyfu lan yn ei wylio. Mae’n arwr llwyr, a gobeithio y bydd yn cael ymddangos ar y cae yn ystod y gêm yn erbyn Awstralia fis Rhagfyr.

“Mae wedi bod yn wych yn ystod y twrnament – mae’n sicr yn chwaraewr mae pawb yn ei edmygu ym myd rygbi.

“Mae ei gyfraniad i rygbi Cymru dros yr 13 neu 14 o flynyddoedd diwethaf heb ei debyg. Yn fwy na thebyg ef yw chwaraewr mwya’ cyffroes ei genhedlaeth, ac mae’n ddyn anhygoel.”