Terry Boyle yw rheolwr Castell Nedd
Bydd Castell Nedd yn teithio i Ffordd Farrar ar gyfer gêm fyw Sgorio’r penwythnos hwn yn hyderus ar ôl casglu 16 pwynt allan o 18 yn eu chwe gêm ddiwethaf. Wedi dweud hynny, byddan nhw’n ymwybodol hefyd nad yw eu record ar y lôn y tymor hwn yn un wych.

Cyn y gêm gyfartal yn Aberystwyth nos Wener ddiwethaf roedd tîm Terry Boyle wedi ennill pum gêm o’r bron a’u gobaith fydd cychwyn rhediad arall tebyg ddydd Sadwrn. Byddan nhw’n sicr yn awyddus i wella’u record oddi cartref o ennill dwy, colli dwy ac un gêm gyfartal.

Mae amddiffyn Castell Nedd wedi ildio un gôl ym mhob un o’u tair gêm ddiwethaf ac er nad yw hynny’n record ofnadwy yn y gynghrair hon, bydd Terry Boyle yn gwybod y bydd rhaid cadw pethau’n dynn yn y cefn os am ddychwelyd gydag unrhyw beth o gartref y pencampwyr presennol.

Mae’r bartneriaeth rhwng y ddau ymosodwr Lee ‘Magic Daps’ Trundle a Kerry Morgan gyda’r mwyaf cyffrous yn y gynghrair, y naill yn cynnig cryfder, sgiliau anhygoel a digonedd o brofiad a’r llall yn cynnig ieuenctid, brwdfrydedd a chyflymder.

Serch hynny, gellir disgwyl goliau o ganol cae Castell Nedd hefyd. Luke Bowen yw prif sgoriwr y clwb ar hyn o bryd gyda chwe gôl ac y mae Paul Fowler wedi taro cefn y rhwyd bum gwaith yn barod hefyd gan gynnwys gôl gampus yn Aberystwyth yr wythnos ddiwethaf.

Dwy gôl i ddim o blaid Castell Nedd oedd hi pan gyfarfu’r ddau dîm ar y Gnoll ar ddechrau’r tymor a byddai’r Eryrod yn fwy na hapus gyda chanlyniad tebyg eto. Yn enwedig, gan gofio y byddai tri phwynt yn rhoi iddynt chwe phwynt o fantais dros Fangor. Yn wir, gallai buddugoliaeth eu codi i’r brig yn ddibynnol ar ganlyniadau Llanelli (oddi cartref yn Lido Afan heno) a’r Seintiau Newydd (gartref yn erbyn Port Talbot yfory).

Mae Sgorio yn dechrau am dri b’nawn fory,  gyda’r gic gyntaf ar Ffordd Farrar am chwarter i bedwar.