Tasg galed fydd yn wynebu Bangor o flaen camerâu Sgorio yfory wrth i Gastell Nedd ymweld â Ffordd Farrar. Dyma ail gêm Bangor yn olynol yn erbyn un o’u prif elynion yn y pedwar uchaf wedi iddyn nhw golli yn Llanelli’r wythnos ddiwethaf.
Roedd Bangor ar y blaen am ran helaeth o’r gêm honno cyn i ddwy gôl hwyr gan Rhys Griffiths dorri eu calonnau a gwneud y daith yn ôl i’r gogledd yn gymaint hirach. Yr hyn fydd yn codi ysbryd cefnogwyr Bangor yw’r ffaith bod eu tîm wedi curo pedair ar y trot cyn y golled yn Nhre’r Sosban.
Ond mae Bangor wedi colli pob un o’u gemau yn erbyn y tri uchaf y tymor hwn, a’r rheiny yw’r gemau y bydd rhaid i’r pencampwyr presennol eu targedu os ydyn nhw am gadw eu teitl, ac mae’r rheolwr Nev Powell yn gwybod hynny.
“I ddechrau, rhaid curo’r timau yn y chwech isaf ac wedi hynny rhaid targedu’r timau cryfaf. Rydan ni wedi chwarae’n dda yn erbyn y timau hynny’r tymor hwn ond heb gymryd ein cyfleoedd, ac os nad ydych chi’n gwneud hynny mae ganddyn nhw chwaraewyr sydd yn mynd i’ch cosbi chi, fel y gwnaeth Rhys Griffiths i ni’r wythnos ddiwethaf.”
Yr adeg yma’r tymor diwethaf roedd Bangor ar dân ac yn ddi-guro, ond nid felly y tro hwn.
A yw’r gynghrair wedi cryfhau’r tymor hwn tybed?
“Mae’r timau isaf wedi cryfhau yn sicr,” meddai Nev Powell.
“Ond wneith be wnaethon ni ddechrau tymor diwethaf fyth ddigwydd eto yn y gynghrair hon, ac roedden ni’n gwybod yn iawn ei bod hi am fod yn anodd y tymor hwn. Rydyn ni’n dîm da ond does gennym ni ddim mo’r chwaraewyr llawn amser ar gyflogau enfawr.
“Mae ganddon ni 22 pwynt hyd yn hyn ac rydyn ni’n chwarae’n dda a byddai tri phwynt yfory yn ein rhoi ni yn ei chanol hi tua’r brig. Rydyn ni eisiau pêl-droed Ewropeaidd yn ein stadiwm newydd tymor nesaf a gydag ychydig o lwc does dim rheswm pam na allwn ni gael hynny.”
Ond mae anafiadau’n achosi cur pen i Powell cyn y gêm.
“Mae Mark Smyth allan am bythefnos gydag anaf i linyn y gâr, dyw James Breweton heb allu ymarfer ond fe ddylai fod yn iawn i chwarae. Mae garddwrn Sion Edwards mewn cast ond dylai Dave Morley fod yn iawn i ddechrau ar ôl chware 45 munud yn erbyn Llanelli.”
Un chwaraewr fydd â phwynt i’w brofi ddydd Sadwrn fydd gôl-geidwad Bangor, Lee Idzi. Dim ond wyth gêm a gafodd y golwr i Gastell Nedd y tymor diwethaf cyn symud i Fangor yn yr haf. Mae o wedi dechrau pob gêm i’w glwb newydd y tymor hwn ond wedi ildio ym mhob un gêm ond un. Does dim dwywaith felly y bydd yn awyddus i wella’r record honno ddydd Sadwrn.
Ym mhen arall y cae bydd yr ymosodwr Alan Bull yn gobeithio ychwanegu at ei bum gôl y tymor hwn, a bydd yn edrych am gymorth gan ei gyd-ymosodwyr Chris Jones a Les Davies hefyd y naill wedi rhwydo bedair gwaith yn barod y tymor hwn a’r llall wedi sgorio tair.
Dyma’r ddau dîm sydd yn denu’r torfeydd mwyaf y tymor hwn a bydd Bangor yn gobeithio gwobrwyo‘r selogion gyda thri phwynt brynhawn Sadwrn.
“Mae’n cefnogwyr ni’n hynod bwysig, ac yn wahanol i ni, dw i’m yn meddwl y daw Castell Nedd a llawer o gefnogwyr efo nhw oddi cartref.” meddai Nev Powell. “Mae tair o’n pum gêm gartref gyntaf ni wedi bod yn fyw ar y teledu sydd yn golygu ein bod ni’n colli dipyn o’r dorf o’r cae ei hun. Ond dw i’n siwr y daw’r ffans i’n cefnogi ni ddydd Sadwrn, ac iddyn nhw mae’r diolch am bob dim da’r ydym ni wedi’i wneud yn y bedair mlynedd ddiwethaf.”
Colli fu hanes Bangor ar y Gnoll yn ail gêm y tymor o flaen torf o bron i 600, a bydd y Dinasyddion yn gobeithio am dorf debyg ond canlyniad gwahanol ar Ffordd Farrar ddydd Sadwrn.
Mae Sgorio yn dechrau am dri b’nawn fory, gyda’r gic gyntaf ar Ffordd Farrar am chwarter i bedwar.