Ryan Giggs
Er nad yw’r asgellwr wedi chwarae dros ei wlad ers pedair mlynedd a mwy, mae Stuart Pearce eisiau hudo Ryan Giggs i chwarae dros Brydain yn yr Olympics y flwyddyn nesaf.

Er mai tîm o chwaraewyr dan 23 oed sy’n cystadlu yn nhwrnament pêl-droed yr Olympics, mae gan bob gwlad sy’n cystadlu’r hawl i ddewis tri chwaraewr sy’n hŷn.

Mewn cynhadledd i’r wasg wrth gael ei ddadrochuddio’n reolwr Tîm Prydain yr wythnos hon, roedd Stuart Pearce yn dweud ei fod yn gobeithio cynnwys Giggs yn ei dîm.

Mae son y bydd David Beckham a Wayne Rooney yn cael eu dewis hefyd yn y garfan o 18.

‘‘Tybiaf bydd Rooney yn cael ei gynnwys am mai ef yw un o chwarewyr gorau Prydain ar y funud,” meddai Guto Llewelyn, cefnogwr brwd Abertawe.

“Mae David Beckham wedi gwneud llawer dros y Gemau Olympaidd, ond ar sail ei bêl-droed dydw i ddim yn credu y dylai fod yna.  Gwyddwn bod Ryan Giggs wedi gwneud llawer i’r gêm ac yn un o’r goreuon, ond dydw i ddim yn siwr o’r penderfyniad o’i ddewis gyda talent ifanc Cymru yn hawlio sylw’’, ychwanegodd.

 Mae sylwebydd Sgorio yn credu bod angen gwneud lle i Beckham a Giggs. 

‘‘Byddai Beckham yn berffaith pe bai yn cael ei dewis.  Mae’n fath o arwr i’r byd pêl-droed.  Byddai dewis Giggs yn dddiddorol ac yn brâf cael Cymro yn nhîm Prydain gan gofio mai efallai mai dyna fydd ei flwyddyn olaf,’’ meddai Dylan Ebenezer.

 Mae son hefyd am gynnwys yr Albanwr Darren Fletcher a Jonny Evans o Ogledd Iwerddon yn y garfan, fel bod gan bob un o bedair gwlad Ynysoedd Prydain un dyn yn y tîm.