Mae dyn 34 oed wedi’i ddedfrydu i wneud 50 awr o waith di-dâl, ar ôl cyfaddef bygwth lladd yr Aelod Srneddol, Chris Bryant.
Roedd James Harris wedi gadael neges ar beiriant ateb swyddfa aelod y Rhondda ar Dachwedd 24 eleni.
Roedd James Harris yn defnyddio isith fygythiol i nodi ei fwriad i ladd y gwleidydd yn ystod yr ymgyrch etholiadol.
Fe gafodd yr achos ei gynnal ym Merthyr Tudful, a’r dedfrydu ddoe (dydd Llun, Rhagfyr 16).