Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi croesawu setliad “cadarnhaol” ar gyfer cynghorau y flwyddyn nesaf a fydd yn gweld cynghorau yn derbyn y cynnydd mwyaf mewn 12 mlynedd o ran cyllid craidd.

Fe gyhoeddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Julie James heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 16) y bydd cyllid gan Lywodraeth Cymru i gynghorau lleol yn fwy na £6bn y flwyddyn nesaf.

Fel rhan o’r setliad llywodraeth leol a gyhoeddwyd ochr yn ochr â Chyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21,  bydd awdurdodau lleol yn derbyn bron i £4.5bn mewn cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig i’w helpu i gynnal gwasanaethau lleol. Mae’n gynnydd o £184m o’i gymharu â 2019-20.

Ers cychwyn y cynni ariannol yn 2010, mae gwasanaethau lleol wedi “ysgwyddo dros £1bn o doriadau” sy’n golygu bod cynghorau wedi “gorfod blaenoriaethu’n ofalus a gwneud penderfyniadau anodd iawn”, meddai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Ychwanegodd bod y rhagolwg o ran cyllid yn parhau i fod yn “heriol”.

Yn ôl CLlLC, bydd yn rhaid i gynghorau barhau i wneud penderfyniadau anodd i flaenoriaethu gwasanaethau, gan gynnwys cynyddu’r dreth gyngor i gwrdd â’r diffyg ariannol.

“Partner hanfodol”

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James: “Mae’r buddsoddiad ychwanegol hwn yn cydnabod bod llywodraeth leol, ynghyd ag eraill, yn bartner hanfodol inni yn ein cenhadaeth genedlaethol i wella addysg, darparu’r gwasanaethau gofal cymdeithasol y mae ein cymunedau eu hangen, trechu tlodi, cyflawni newid sylweddol mewn tai cymdeithasol, a chreu cymunedau lleol llewyrchus a chynaliadwy.”

“Gwrando’n ofalus”

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC ac Arweinydd y Grŵp Llafur ei fod yn croesawu’r “setliad eithriadol o dda yma”.

“Trwy gydol y flwyddyn, rydyn ni wedi bod yn cwrdd â nifer o Weinidogion sydd wedi gwrando’n ofalus ar yr hyn oedd gennym ni i ddweud ac yn cydnabod yr effaith ddinistriol mae cynni wedi ei gael ar wasanaethau lleol a gweithwyr rheng flaen.”

“Siom”

Ond dywedodd y Cynghorydd Peter Fox (Sir Fynwy), Arweinydd Grŵp Ceidwadol CLlLC ei fod wedi ei “siomi” gyda’r setliad.

“Rhoddodd Lywodraeth y DU ddigon o gyllid i Lywodraeth Cymru i wneud lawer gwaith gwell na hyn, ac maen nhw unwaith eto wedi methu llywodraeth leol yng Nghymru. Ymhellach, rydyn ni’n gweld gwahaniaethau mawr yn y cyllid sy’n cael ei dderbyn gan rai cynghorau o gymharu ag eraill. Mae gwahaniaeth o rhwng 3% a 5.4% yn hurt y dyddiau yma. Rhaid gwneud rhywbeth i fynd i’r afael â’r amrywiad yma.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Emlyn Dole (Sir Gaerfyrddin), Arweinydd Grŵp Plaid Cymru CLlLC nad yw’n “cwrdd â’r holl bwyseddau a bydd awdurdodau lleol yn dal i wynebu penderfyniadau anodd, a bydd angen ystyried yn ofalus sut y bydd y dreth gyngor yn pontio’r bylchau mewn cyllidebau.”