Mae ymgyrchwyr iaith wedi beirniadu toriadau i wariant ar brosiectau penodol ar gyfer y Gymraeg yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru gafodd ei chyhoeddi heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 16).

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn cynyddu  dros £1bn, o £19bn eleni i £20.2bn flwyddyn nesaf – cynnydd o 5.8% mewn termau arian parod.

Serch hynny, meddai’r mudiad, mae cyllidebau ar gyfer gwariant ar y Gymraeg yn benodol yn cwympo mewn termau real o bron i £400,000 neu 1.6% – arian sy’n cael ei glustnodi i fudiadau megis yr Urdd a’r Eisteddfod.

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu torri cyllideb y Gymraeg mewn Addysg o £1.65m, neu doriad o 15% mewn termau real, y flwyddyn nesaf, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

“Siom”

Mewn ymateb i’r newyddion, dywedodd Tamsin Davies o Gymdeithas yr Iaith nad oes modd “cyfiawnhau’r toriadau”.

Ychwanegodd: “Mae gan y Llywodraeth fwy na £1bn ychwanegol ar gyfer y flwyddyn nesaf, felly fan leiaf byddai disgwyl i’r Llywodraeth gynyddu cyllidebau’r Gymraeg yn unol â chwyddiant.

“Fodd bynnag, gan ystyried eu targedau uchelgeisiol ynghyd â’u hawydd i gynyddu defnydd y Gymraeg, dylen nhw fod yn cynyddu’r gwariant ar brosiectau  Cymraeg yn llawer mwy na hynny mewn gwirionedd.

“Mae’n ymddangos nad yw’r iaith yn flaenoriaeth o gwbl i’r Llywodraeth hon, ac mae hynny’n destun siom. Mae gwledydd fel Gwlad y Basg yn gwario llawer iawn mwy na ni – bron i bum gwaith yn fwy – ac mae hynny’n un rheswm dros ffyniant y Fasgeg.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym wedi ymrwymo i gynyddu nifer y bobl sy’n siarad Cymraeg ac sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd. Mae cyllidebau iaith Gymraeg yn parhau i fod yn fwy na £37m eleni.

“Rydym hefyd wedi cynyddu’r gyllideb addysg £86m eleni, a fydd o fudd i bob dysgwr, gan gynnwys y rhai mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae ein cyllideb ddrafft hefyd yn cynnwys £500k ychwanegol tuag at gynyddu nifer yr athrawon ysgol uwchradd.”

Cyllideb

Wrth gyhoeddi eu Cyllideb Ddrafft heddiw dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai’r pwyslais ar ragor o fuddsoddiad yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, gwasanaethau cyhoeddus a’r amgylchedd.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans: “Mae ein haddewidion wedi llywio ein blaenoriaethau yn wyneb cyni didostur llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n golygu bod Cymru wedi bod ar ei cholled.”