Mae Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin wedi cau i ymwelwyr heddiw (Rhagfyr 16) oherwydd achosion o Norofirws – afiechyd salwch y gaeaf.

Ni fydd ymwelwyr yn cael mynd i’r ysbyty oni bai bod amgylchiadau arbennig.

Mae’r ysbyty yn annog unrhyw un sydd ag apwyntiad ac sydd wedi dioddef symptomau ffliw, neu salwch megis chwydu, dolur rhydd, a thwymyn o fewn 48 awr i gysylltu â’r ysbyty i weld os yw’r apwyntiad yn un brys.

Maen nhw hefyd yn cynghori pobol sydd yn ymweld â’r ysbyty i olchi eu dwylo mor aml ag sy’n bosib.

Bydd y sefyllfa yn cael ei fonitro gan staff yr ysbyty a bydd cyhoeddiad pan fo’r ysbyty’n barod i dderbyn ymwelwyr eto.