Mae cyn-hyfforddwr cynorthwyol tîm rygbi Cymru, Rob Howley, wedi cael ei wahardd rhag bod yn gysylltiedig a’r gem am 18 mis, ar ôl torri rheoliadau betio. Mae’r gwaharddiad wedi’i ohirio am naw mis.
Cafodd Rob Howley ei anfon adref o Japan yn gynnar ar drothwy Cwpan Rygbi’r Byd ar ôl i Undeb Rygbi Cymru ddod yn ymwybodol o’r mater a chafodd ymchwiliad ei gynnal.
Roedd amheuon ei fod wedi bod yn betio ar gemau rygbi.
Mae’r gwaharddiad yn dyddio nôl i Fedi 16 2019 pan ddaeth ei swydd yng Nghwpan Rygbi’r Byd i ben, sy’n golygu y bydd yn gallu cael swydd rygbi o Fehefin 16 2020.
Roedd datganiad gan Undeb Rygbi Cymru (WRU) yn dangos bod Rob Howley wedi ei gyhuddo ym mis Hydref o fetio 364 gwaith ar gemau rygbi undeb dros gyfnod o bedair blynedd gan ddefnyddio cyfrifon gyda thair siop fetio yn ei enw ei hun.
Mae Rob Howley wedi derbyn y cyhuddiad, meddai’r datganiad.
Daeth y mater i sylw rheolwr polisi’r WRU Jeremy Rogers ar ôl i aelod o staff cwmni Betway gysylltu gydag o i ddweud bod Rob Howley wedi betio ar gemau Cymru.
Yn ystod cyfarfod ym mis Medi i drafod proses yr ymchwiliad roedd Rob Howley wedi cyfaddef ei fod yn ymwybodol bod betio ar gemau yn ymwneud a Chymru yn torri rheoliadau betio Rygbi’r Byd.