Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i ymosodiad difrifol yn y Barri.
Mae dyn 42 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Cafodd yr heddlu eu galw i glwb nos yn y dref am oddeutu 2.15 fore ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 14).
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, ac mae dau ddyn, 32 a 26 oed, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol ac wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.