Bydd plant ar draws Cymru yn cael y cyfle i fwynhau bob math o weithgareddau yn ystod gwyliau’r hanner tymor, gyda phrosiectau chwarae yn derbyn dros £13 miliwn gan y Loteri Genedlaethol.

Mae rhaglen ‘Chwarae Plant’ y Gronfa Loteri Fawr wedi dyfarnu arian i brosiectau sy’n annog mwy o blant i fwynhau gweithgareddau awyr agored a chreu mentrau newydd a chyfleusterau newydd.

Un prosiect sydd wedi elwa ydi Prosiect Chwarae Llwybrau Porffor Sir Gâr a Sir Benfro, sydd wedi derbyn bron i filiwn o bunnoedd.

Mae’r prosiect wrthi’n darparu dau dîm o weithwyr chwarae i gyflwyno darpariaeth chwarae mewn 12 cymuned ar gyfer 1,000 o blant.

Mae’r prosiect hefyd yn cysylltu â mentrau teuluoedd iach i gyflwyno gweithdai mewn cymunedau ynghyd â hyfforddiant ar bwysigrwydd gweithgareddau corfforol a bwyta’n iach. Bydd bob math o weithgareddau ar gael i gadw’r plant yn brysur dros y gwyliau hanner tymor.

Meddai Cyfarwyddwr Cronfa Loteri Fawr Cymru, John Rose, “Trwy ein Cynllun Plant, rydym yn cymryd camau cadarnhaol i gynnal iechyd cenedlaethau’r dyfodol drwy hyrwyddo ffyrdd o fyw yn iach ac actif ymysg plant a theuluoedd.”