Gruff Rhys sydd wedi ennill y Wobr Cerddoriaeth Gymreig gyntaf am ei albwm, ‘Hotel Shampoo’.
Derbyniodd y wobr mewn seremoni yng Nghlwb Kuku, Caerdydd, neithiwr, fel rhan o’r Ŵyl Sŵn sy’n cael ei chynnal yn y brifddinas.
Dywedodd ei fod wedi cael syrpreis wrth glywed ei enw yn cael ei gyhoeddi fel yr enillydd.
“Dwi’n ddiolchgar iawn,” meddai. “Roedd pob un a enwebwyd ar gyfer y wobr yn haeddu ennill. Doeddwn i ddim wedi disgwyl ennill.”
Ymysg y rhai a enwebwyd ar gyfer y wobr oedd Al Lewis ar gyfer ‘In the Wake’, Funeral for a Friend ar gyfer ‘Welcome Home Armageddon’, Lleuwen ar gyfer ‘Tân’, Manic Street Preachers ar gyfer ‘Postcards from a Young Man and Y Niwl ar gyfer ‘Y Niwl.’
Gwobr newydd yw hon i ddathlu albwm gorau’r flwyddyn gan artist o Gymru.
Lansiwyd y wobr yn ôl ym mis Awst gan y DJ Huw Stephens.