The Stone Roses
Y tocynnau ar gyfer tri gig y Stone Roses ym Manceinion y flwyddyn nesaf sydd wedi gwerthu gyflymaf yn hanes roc a rôl, yn ôl safle tiwtter y band.

Gwerthwyd 220,000 o docynnau y bore yma mewn awr ag wyth munud

Roedd y grŵp indi roc wedi cyhoeddi ddydd Mawrth eu bod yn ail-ffurfio, gyda pherfformiadau byw a chaneuon newydd ar y gweill.

Fe chwalodd y grŵp yn 1996 ac roedd yr aelodau wedi wfftio awgrymiadau y byddan nhw’n dod yn ôl at ei gilydd.

Ond yna’r wythnos hon daeth y cyhoeddiad y grŵp yn chwarae yn Heaton Park ym Manceinion flwyddyn nesaf, gyda dyddiadau eraill mewn mannau ar hyd a lled y byd.

Dywedodd y gitarydd John Squire ei fod o a’r canwr Ian Brown wedi cwrdd yn angladd mam y  basydd  Gary “Mani” Mounfield,  a bod hynny wedi “newid popeth”.

Dywedodd Ian Brown, a fu unwaith yn byw yn Llithfaen ger Pwllheli, mai bwriad y grŵp oedd “herio’r byd.”

Ar ôl clywed y newyddion am yr aduniad dywedodd Liam Gallagher ar Twitter nad oedd wedi bod mor hapus ers i’w blant gael eu geni.