Jen Jeniro
Mae gŵyl SŴN yn dechrau yng Nghaerdydd heno, yn barod ar gyfer penwythnos o gerddoriaeth o Gymru a thu hwnt yn y brifddinas.
Bydd 180 o fandiau yn perfformio mewn tafarndai a chlybiau ar draws Caerdydd yn ystod y pedwar diwrnod nesaf, a channoedd o ffans cerddoriaeth yn cael y cyfle i grwydro o un gig i’r llall er mwyn mwynhau amrywiaeth o gerddoriaeth.
Bydd yr ŵyl yn dechrau heno gyda pherfformiadau gan Greta Isaac yn nhafarn O’Neills am 6.15pm, ac yn cau gyda pherfformiad gan Strange News From Another Star yn Undertone, nos Sul.
Mae’r ŵyl ar ei phumed blwyddyn erbyn hyn, ac eleni mae diwrnod arall o gerddoriaeth wedi ei ychwanegu at y tridiau arferol.
Dau o drefnwyr yr ŵyl ers y cychwyn yw Huw Stephens a John Rostron, ac maen nhw’n dweud eu bod yn “falch i weld yr holl beth yn tyfu” o flwyddyn i flwyddyn.
Mae’r ŵyl bellach wedi ennill ei phlwyf yng nghalendr digwyddiad cerddorol Cymru, a Phrydain, dros y bum mlynedd ddiwethaf, ac wedi rhoi llwyfan cynnar i fandiau mawr Prydeinig fel The Vaccines, law yn llaw â bandiau Cymreig a Chymraeg.
“Dyma sy’n gwneud yr ŵyl mor unigryw i bobol o Gymru a thu hwnt,” meddai’r cyflwynydd a’r DJ Huw Stephens. “Mae’n adlewyrchu mor gryf yw’r sîn yng Nghymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar hyn o bryd.”
Rhai o’r bandiau Cymraeg fydd yn ymddangos yn yr ŵyl eleni yw Al Lewis, Colorama, Jen Jeniro, a Masters in France.
Albym gorau’r flwyddyn…
Eleni hefyd mae’r trefnwyr wedi tynnu rhai o arbenigwyr y byd cerddoriaeth yng Nghymru a Phrydain ynghŷd er mwyn dyfarnu pwy fydd enillydd ‘Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2011’.
Dyma’r flwyddyn gyntaf i’r wobr gael ei chynnig, ac mae 12 albwm wedi eu henwebu, gan gynnwys Gruff Rhys gyda Hotel Shampoo, Lleuwen gyda Tân, albwm gyntaf Y Niwl, a Big Roar gan The Gentle Good.
Yn ôl y trefnwyr, mae’r gystadleuaeth wedi ei chreu er mwyn dathlu’r amrywiaeth o gerddoriaeth a chreadigrwydd sydd yng Nghymru, a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni yn ystod y ŵyl nos yfory, 21 Hydref.