Ian Brown (CCA 3.0)
Barry Chips sy’n trafod atgyfodiad un o grwpiau mwyaf y sin roc Brydeinig.
Mae The Stone Roses yn ôl, ond a ydy atgyfodiad y band seminal yma o Fanceinion yn beth da neu ddrwg?
Rheswm i lawenhau…
Yr addewid o ganeuon newydd. Nid dod at ei gilydd i gyflwyno nostaljia ar blât i bobol canol oed fydd y Rhosod Caregog, canys y maen nhw’n addo deunydd newydd sbon…mae lot o frolio haeddiannol ar eu debut rhagorol, ond mae gwychder ar yr ail albwm a gafodd ei phanio gan ‘y gwybodusion’. Gweler y groove ar ‘Breaking Into Heaven’ a’r riff rywiol ar ‘Love Spreads’.
Mae’r ffaith fod Ian Brown wedi parhau i sgwennu caneuon gwych ar ei ben ei hun ers chwalfa’r band, yn reswm arall i ddal ein gwynt.
Mi fyddwch wedi clywed ei gân ‘F.E.A.R.’ droeon, hyd yn oed os nad ydych yn ymwybodol mai’r Manc sy’n ei chanu.
Bron heb sylwi rydw i wedi casglu pump o’i chwech albwm solo, ac mae perlau ar bob un (ag ambell i anfadwaith, wrth reswm).
Felly mae bron yn anochel y bydd y caneuon newydd yn werth eu clywed.
Ac eto…
Fedar Ian Brown ddim canu’n fyw i safio’i Nain.
Tra’n twrio The Second Coming roedd pob pyndit yn cwyno fod ffryntman y Rhosod yn swnio fel rhech mewn draen, ac roedd y dyn ei hun yn rhoi’r bai ar John Squire am droi sŵn ei gitâr mor uchel fel nad oedd posib i neb glywed ei hun yn canu.
Wel rydw i wedi gweld Ian Brown yn fyw fwy nag unwaith ar daith solo, pan fyddai rhywun yn dychmygu fod ganddo reolaeth lwyr dros y lefelau sain, ac roedd ei lais yn gwneud i mi wingo mewn embaras drosto.
Yn Lerpwl un tro mi welais y dyn mwya’ cŵl yn canu fersiwn erchyll o ‘Billie Jean’ Michael Jackson.
Fedra i glywed sŵn y cyllyll yn cael eu hogi’n barod ar gyfer y gigs yna ym Manceinion.
Rheswm i lawenhau…
Mae’r gitarydd John Squire yn artist talentog, a bron fod rhywun yn teimlo’r brwsh paent yn cael ei daenu ar ganfas wrth wrando ar ei lyfiadau hyfryd ar y gitâr. Chwaethus Cariad, hyfryd o chwaethus.
Ac eto…
Mi fydd yna bwysau ar y Rhosod i fod yn ddim byd llai na gwych. Dyma’r math o bwysau oedd arnyn nhw ar ôl llwyddiant yr albwm gynta’, ac wrth recordio’r ail albwm syrthiodd Squire i’r fagl o ddefnyddio cocên i fwydo’i awen greadigol. All y dyn distaw sy’n siarad trwy ei amp ymdopi â’r pwysau y tro hwn?
Rheswm i lawenhau…
Yn y blynyddoedd diweddar mae bandiau indi seminal fel Blur, The Verve a Pulp wedi ailffurfio a llwyddo, os unrhyw beth, i swnio’n well na’r hyn oedden nhw y tro cyntaf rownd…
Ac eto…
Er bod aelodau’r Stone Roses dal yn denau a Duwiol o rywiol, mi fetiaf bod eu cynulleidfa feidrol yn hyll ac yn dew erbyn hyn. Ond mae bron i flwyddyn tan y gigs yna’n Manceinion, felly ioga pilates fflat owt a face lift gan Santa biau hi…
Ôl-nodyn…
Yn nyddiau blin y bancars barus a’r gwleidyddion llwgr, mae’n briodol rywsut fod Ian Brown yn dychwelyd a chael sylw’r byd.
Dyma bersonoliaeth llawn carisma sydd, fel yr Iesu, yn fab i Saer Coed cyffredin ac yn gyfaill i’r tlawd a’r under dog.
Dw i’n edrych ymlaen i glywed beth sydd gan y working class hero o Fanceinion i’w ddweud am y llanast cyfalafol.