Mae un o gwmnïau teledu mwya’ Cymru yn bwriadu torri 20 o swyddi.

Y disgwyl yw y bydd cwmni Boomerang o Gaerdydd yn cynnal cyfnod ymgynghorol gyda’u staff.

Mae’r cwmni’n rhoi’r bai ar doriadau mewn rhaglenni gan y BBC ac S4C er fod Prif Weithredwr y grŵp wedi gwneud datganiad gobeithiol am ddyfodol y cwmni lai na mis yn ôl.

Gobeithio am ragor o dwf

Wrth gyhoeddi ffigurau’r grŵp hyd at fis Mai 2011, fe ddywedodd Prif Weithredwr grŵp Boomerang Plus eu bod yn gobeithio gweld rhagor o dwf.

Roedden nhw wedi gwneud elw ar ôl treth o fwy na £1 miliwn – dwbl y flwyddyn gynt – ac, yn ôl Huw Eurig Davies, wedi dechrau’n gry’ hefyd.

“Mae’r grŵp wedi gwneud dechrau cryf i fasnachu yn y flwyddyn ariannol gyfredol a byddwn hefyd yn parhau i chwilio i brynu rhagor (o fusnesau) a fydd yn gallu ychwanegu gwerth mewn marchnad sy’n newid yn gyflym,” meddai.

Cefndir

Boomerang Plus yw un o grwpiau teledu mwya’ llwyddiannus Cymru ar ôl tyfu’n gyflym yn ystod y chwe blynedd diwetha’.

Roedd hynny’n cynnwys prynu cwmnïau annibynnol eraill, gan gynnwys Fflic, Alfresco, Apollo ac Indus a datblygu asiantaeth dalentau.

Yn 2005, roedd Boomerang yn un o’r cwmnïau a gafodd arian datblygu gan S4C a’r gobaith oedd y byddai hefyd yn datblygu busnes y tu allan i Gymru.

Bellach, mae’r BBC ac S4C yn torri’n ôl ar raglenni.