Mae dau o bobol yn yr ysbyty yn Stoke yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd A4244 yn ardal Penisarwaun neithiwr (nos Lun, Rhagfyr 9).
Cafodd Heddlu’r Gogledd wybod gan y Gwasanaeth Ambiwlans am y digwyddiad rhwng dau gar lliw arian – Nissan Almera a Kia Niro – ger y Jesse James Bunkhouse am oddeutu 6.45yh.
Cafodd y ddau yrrwr – dyn a dynes – eu cludo i’r ysbyty ag anafiadau difrifol.
Mae’r heddlu’n apelio am dystion, ac yn awyddus i glywed mwy am y ffordd roedd y ddynes yn gyrru’r Nissan Almera o gyfeiriad ffordd A4086 Cwm y Glo cyn y digwyddiad.