Mae darogan y gallai’r Blaid Lafur ennill llai na 40% o’r bleidlais yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol ddydd Iau (Rhagfyr 12).
Llafur sydd wedi ennill y nifer fwyaf o seddi yng Nghymru ym mhob un o’r 26 etholiad cyffredinol, ond mae dyfalu bod y rhod yn troi.
Enillon nhw 49% o’r bleidlais yn yr etholiad diwethaf yn 2017, o’i gymharu â 34% y Ceidwadwyr, 10% Plaid Cymru a 5% y Democratiaid Rhyddfrydol.
Ond mae’r cwymp sy’n cael ei ddarogan gan y Press Association y tro hwn yn awgrymu y gallai’r blaid golli nifer o seddi.
Yr etholaeth lle mae Llafur yn wynebu’r risg fwyaf yw Wrecsam, lle’r oedd ganddyn nhw fwyafrif o 1,832 y tro diwethaf, ac a allai fynd i’r Ceidwadwyr pe bai’n gwyro o 2.7%.
Cipiodd Llafur seddi Dyffryn Clwyd a Gŵyr oddi ar y Ceidwadwyr yn 2017 ond yr awgrym yw y gallai’r Ceidwadwyr adennill y ddwy.
Er mwyn i hynny ddigwydd, byddai angen i’r bleidlais wyro 3.1% yn Nyffryn Clwyd a 3.6% yng Ngŵyr.
Mae’r Ceidwadwyr hefyd yn targedu Gogledd Caerdydd, Delyn, Pen-y-bont ar Ogwr ac Ynys Môn – ond llygedyn o obaith yn unig sydd gan y Ceidwadwyr yn y seddi hyn.
Llafur yn cynyddu eu seddi?
Mae Press Association hefyd yn awgrymu y gallai Llafur gynyddu nifer eu seddi o dan amgylchiadau eithriadol.
Un o’r seddi y gallen nhw eu hennill yw Preseli Penfro, lle mae angen i’r bleidlais wyro 0.4% tuag at Lafur er mwyn i Stephen Crabb golli ei sedd, lle’r oedd ganddo fe fwyafrif o 314 y tro diwethaf.
Yn Aberconwy, byddai angen i’r bleidlais wyro 1% er mwyn i Lafur ei hennill oddi ar y Ceidwadwyr, yn dilyn penderfyniad Guto Bebb na fyddai’n sefyll y tro hwn ar ôl ennill mwyafrif o ddim ond 635 yn 2017.
Mae Llafur hefyd yn targedu Bro Morgannwg a Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro.
Y pleidiau eraill
Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn gobeithio dal eu gafael ar sedd Brycheiniog a Maesyfed, yn dilyn buddugoliaeth Jane Dodds ar ôl i’r Ceidwadwr Chris Davies orfod camu o’r neilltu.
Gallai’r blaid hefyd ennill sedd Sir Drefaldwyn pe baen nhw’n llwyddo i ddenu pleidleiswyr oedd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ond byddai angen i’r bleidlais wyro 13.3%.
Bydd Plaid Cymru’n gobeithio dal eu gafael ar Arfon, Ceredigion, Dwyfor Meirionnydd a Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, ond gallai’r pedair prif blaid frwydro’n ffyrnig am sedd Ceredigion.