Cafodd deuddeg o rwyfwyr mewn cychod hir Celtaidd eu hachub oddi ar arfordir Aberystwyth ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 7).
Aethon nhw i drafferthion am oddeutu 3.25yp, a bu’n rhaid i’r bad achub fynd i’w helpu.
Cafodd y criw ei achub a’u tywys i’r lan yn ddiogel.
“Bu’n rhaid i griw’r bad achub adael y Ffair Nadolig i fynd i achub 12 o bobol ar gychod rhwyfo,” meddai’r tîm ar eu tudalen Facebook.