Mae’r heddlu’n rhybuddio’r cyhoedd i fod ar eu gwyliadwriaeth ar ôl cyfres o ladradau o siopau yn y Rhyl.
Dros yr wythnosau diwethaf, bu lladradau ar wahanol adegau o’r dydd a’r nos yn siop a Swyddfa Bost Best-One ar St Margaret’s Drive, y Co-op ar Ffordd Elen a siop betio Corbetts ar Ffordd Cefndy.
Mae gan yr heddlu feddwl agored ynghylch a oes mwy nag un troseddwr wedi bod yn gyfrifol am y lladradau hyn.
“Os ydych chi’n gweld rhywun o gwmpas y siopau yn y dref sy’n gwneud ichi deimlo’n anghysurus neu’n bryderus, ffoniwch 999,” meddai’r Prif Arolygydd Sir Ddinbych, Andrew Williams.
“Does neb wedi cael eu brifo hyd yma diolch byth. Ond dw i’n pwyso ar bawb i beidio herio’r troseddwr os ydyn nhw’n gweld rhywbeth amheus. Diogelwch personol ydi’r flaenoriaeth bwysicaf yn yr amgylchiadau hyn a galw’r heddlu ar unwaith ydi’r ymateb gorau.”
Ychwanegodd fod rhagor o blismyn wedi cael eu rhoi ar patrol yn yr ardal i dawelu meddwl y gymuned a cheisio atal rhagor o droseddau.