Mae astudiaeth newydd o gyfraddau marwolaeth ymhlith merched yn dangos pwysigrwydd ymarfer corff a ffitrwydd fel amddiffyniad.

Dangosodd ymchwil o 4,714 o ferched canol oed a hŷn dros gyfnod o 4.6 blynedd yn Sbaen fod cyfraddau marwolaeth tua phedair gwaith yn uwch ymysg y rheini nad oedd yn ffit.

Roedd y gyfradd marwolaethau o salwch cardio fasgwlaidd yn 2.2% ymhlith y rhai nad oedd yn gallu gwneud llawer o ymarfer corff o gymharu â 0.6% o’r rheiny a oedd yn ffit.

Mae awdur yr astudiaeth yn annog merched i wneud hynny ag y gallan nhw o ymarfer corff.

“Mae ffitrwydd yn amddiffyn yn erbyn marwolaeth o unrhyw achos,” meddai Dr Jesus Peteiro, o Ysbyty Prifysgol A Coruna yn Sblaen.

Roedd yn cyflwyno gwaith ymchwil a wnaed yn Sbaen i gynhadledd Cymdeithas Cardioleg Ewrop yn Vienna.