Yn ôl gwaith ymchwil newydd, mae Prifysgol Bangor yn un o’r colegau mwyaf cyfeillgar i’r amgylchedd yn y byd.
Mae Universitas Indonesia wedi rhoi 780 o brifysgolion o 85 o wledydd gwahanol yn y glorian, a Phrifysgol Bangor yw’r degfed orau o ran bod yn gyfeillgar i’r amgylchedd.
“Ymdrech tîm ar draws y campws yw hwn,” meddai Cyfarwyddwr Cynaladwyedd y Brifysgol, Dr Einir Young.
“Mae gwella’r amgylchedd ac arbed adnoddau ledled y sefydliad yn her ddi-baid ac mae gofyn i ni i gyd ymuno yn y gwaith.
“Rydym yn cydnabod bod rheolaeth amgylcheddol gadarn yn hanfodol bwysig i’n nod o ddatblygu a defnyddio dulliau blaengar o wneud ystyriaethau cynaliadwyedd a llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn rhan annatod o bopeth a wnawn.”