Mae’r Aelod Cynulliad Torïaidd Mark Isherwood wedi ymosod ar Lafur, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol “am barhau i fynd yn groes i ewyllys pobl Cymru”.
Yn ôl Mark Isherwood mae Aelodau Cynulliad y pleidiau hyn yn defnyddio Brexit i ddychryn pobl ynglŷn â dyfodol y Gwasanaeth Iechyd.
Wrth siarad mewn dadl yn y Senedd yr wythnos hon, mae Mark Isherwood wedi cyhuddo Plaid Cymru o “wadu” bod y wlad wedi pleidleisio tros Brexit.
Aeth ymlaen i honni y byddai ail refferendwm Brexit yn “mynd â’r Deyrnas Unedig yn ôl i’r cam cyntaf, yn erydu ffydd yn y system wleidyddol ac yn gwneud ffars o’n democratiaeth.
“Ar Fehefin 23 2016, mi wnaeth y Deyrnas Unedig bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. Pleidleisiodd Cymru dros adael.
“Ond mae Aelodau Cynulliad Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur, sydd yma gyda mandad honedig, yn parhau i fynd yn groes i ewyllys pobl Cymru”.