Mae Gweinidog y Gymraeg wedi wfftio honiadau ei bod wedi cynnig mwy o arian i’r Comisiynydd Iaith, ar yr amod ei fod yn ymchwilio i lai o gwynion am gyrff sy’n methu darparu gwasanaethau Cymraeg.

Daw sylwadau Eluned Morgan yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon, mewn ymateb i honiadau gan Gymdeithas yr Iaith sy’n seiliedig ar dystiolaeth newydd gawson nhw dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Mae’r Gymdeithas wedi cael gafael ar ddogfen drafod Llywodraeth Cymru sy’n dweud bod Gweinidog y Gymraeg yn ‘ystyried… trosglwyddo cyfrifoldebau pellach i’r Comisiynydd’ os yw yn ‘newid ei ffocws o fod yn rheoleiddiwr sy’n ymateb i gwynion… i sefydliad sy’n mynd ati’n rhagweithiol i gefnogi cyrff sy’n darparu gwasanaethau Cymraeg’.

Hefyd yn y ddogfen drafod mae sôn am y Llywodraeth yn ‘sefydlu gweithdrefnau newydd ar gyfer noddi’r Comisiynydd gyda’r nod fod y Comisiynydd yn newid pwyslais wrth weithredu ei swyddogaethau rheoleiddio.’

‘Ymchwilio i lai o gwynion’

Ers iddo gamu i swydd y Comisiynydd Iaith ym mis Ebrill eleni, mae’r Gymdeithas yn honni bod Aled Roberts wedi ymchwilio i lai na 40% o’r cwynion wnaeth ei swyddfa dderbyn.

Yn ôl y Gymdeithas roedd ei ragflaenydd, Meri Huws, yn ymchwilio i 80% o’r cwynion roedd hi’n eu cael.

“Mae bellach yn glir bod y Comisiynydd newydd, yn dilyn cais gan Weinidog y Llywodraeth, wedi gwneud ymdrech fwriadol i leihau nifer a chanran yr ymchwiliadau i gwynion a gynhelir ganddo, a hynny er mwyn sicrhau rhagor o gyllid a chyfrifoldebau o du Llywodraeth Cymru,” meddai Leena Sarah Farhat, Cadeirydd o Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith:

“Heb os, mae hyn yn llwgrwobrwyo a chamymddygiad difrifol,” ychwanegodd.

“Rhyddid absoliwt”

Mae Gweinidog y Gymraeg wedi wfftio’r cwynion a’i swyddfa yn mynnu fod gan y Comisiynydd Iaith “ryddid absoliwt” i ymchwilio i gwynion am ddiffyg gwasanaeth Cymraeg.

“Mae’r Gweinidog yn benderfynol o gyd-weithio gyda’r Comisiynydd er lles y Gymraeg,” meddai llefarydd Eluned Morgan, “ac mae dealltwriaeth rhwng y ddau ohonynt fod angen gwneud mwy o waith i hybu a hyrwyddo er mwyn cynyddu defnydd yr iaith.

“Mae’r Gweinidog hefyd wedi pwysleisio bod annibyniaeth y Comisiynydd o ran monitro a gorfodi Safonau, ac wrth gynnal ymchwiliadau i honiadau o ymyrraeth â’r rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg, yn absoliwt.

“Mae’r Comisiynydd hefyd yn gwbl rydd i leisio ei farn ar faterion sy’n ymwneud â’r Gymraeg.”

Ymateb Comisiynydd y Gymraeg

Mae llefarydd ar ran y Comisiynydd wedi dweud bod “sicrhau hawliau siaradwyr Cymraeg yn greiddiol i’n gwaith…

“Rydym yn ymchwilio i gwynion er mwyn sicrhau bod sefydliadau’n cydymffurfio â’u dyletswyddau. Wrth benderfynu a yw am gynnal ymchwiliad i gŵyn, mae’r Comisiynydd yn ystyried nifer o ffactorau, gan gynnwys difrifoldeb y gŵyn, yr effaith ar yr achwynydd, perfformiad y sefydliad a thystiolaeth o newid yn arferion y sefydliad.

“Rhwng Ebrill a Medi eleni agorwyd 42 ymchwiliad statudol ac mae’r Comisiynydd yn bersonol yn ystyried pob cwyn yr ydym yn ei derbyn. Mae swydd y Comisiynydd yn annibynnol ac mae gan unrhyw un sy’n anfodlon gyda phenderfyniad y Comisiynydd hawl i fynd at Dribiwnlys y Gymraeg, sy’n delio ag apeliadau yn erbyn penderfyniadau Comisiynydd y Gymraeg.”

Mwy am y stori yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg