Mae Julie James, y Gweinidog Tai, yn galw am godi tai mewn ardaloedd yng Nghymru “lle mae pobol eisiau byw”.
Mae hi’n dweud y gallai Llywodraeth Cymru atal datblygiadau tai sydd ddim o safon ddigon da neu sydd heb gael eu hadeiladu gyda’r bwriad o greu cymunedau cryfach a mwy cynaladwy.
Bydd hi’n annerch cynhadledd yng Nghaerdydd heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 4) i nodi blwyddyn ers cyhoeddi Polisi Cynllunio Cymru.
Mae’r polisi’n sicrhau bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i’r holl agweddau ar ddatblygiadau tai cynaladwy ac anghenion pobol, gan gynnwys sicrhau bod cartrefi yn y llefydd mwyaf addas i’r bobol sydd eu hangen fwyaf, sicrhau bod llwybrau seiclo a cherdded gerllaw, eu bod nhw’n ynni-effeithlon ac yn defnyddio’r lleiafswm posib o wastraff.
Mae Llywodraeth Cymru’n ystyried sut i addasu ceisiau sydd heb gyrraedd y disgwyliadau hyn, a bydd y cyllid sy’n cael ei roi i ddatblygiadau hefyd yn ddibynnol ar arfer dda.
‘Gwella bywydau pobol’
“Yn rhy aml, rydw i’n clywed gan bobl am dai newydd sy’n fach ac wedi’u hadeiladu’n wael, ac am ddiffyg gwyrddni yn y datblygiad a’r ffaith na fabwysiadwyd heolydd a mannau agored,” meddai Julie James, y Gweinidog Tai.
“Felly gall gwneud penderfyniadau da ynghylch cynllunio wella bywydau pobl, a dylai wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys penderfyniadau strategol ynghylch lle i leoli datblygiad newydd a phenderfyniadau lleol ynglŷn â gwedd a chynllun tai unigol.
“Rydw i eisiau i gymunedau’r dyfodol fod yn lleoedd y mae pawb yn dymuno byw ynddynt. Rydyn ni eisiau i bobl fagu’u plant a heneiddio mewn cymuned lle y maen nhw’n teimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus, lle mae gwasanaethau a chyfleusterau ar gael sy’n ddigonol i’w cefnogi drwy bob cyfnod o’u bywydau.
“Mae Llywodraeth Cymru eisiau sicrhau, yn y dyfodol, bod y ceisiadau mwyaf am ddatblygiadau newydd yn enghreifftiau o arfer “creu lleoedd”, ac nad ydyn nhw’n parhau i ddefnyddio arferion anfoddhaol y gorffennol. Os oes rhaid, byddwn yn defnyddio ein pwerau cynllunio i sicrhau bod hyn yn digwydd.
“Byddaf yn parhau i ddadlau y dylai’r system gynllunio fod yn ganolog o ran sut rydyn ni’n llunio lleoedd ac yn cefnogi cymunedau tecach a mwy cynhwysol. Yr her i bob un ohonom yw adeiladu datblygiadau o safon dda mewn cymunedau y mae pobl yn falch i’w galw’n gartref iddynt.”