Mae cyn-gaplan Prifysgol Caerdydd wedi’i gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar fyfyriwr yn 1997.
Mae’r Parchedig Ddoctor Paul Overend, 53, wedi’i gyhuddo o afael mewn dynes a’i chusanu mewn parti.
Mae’n gwadu’r honiadau, ac fe fydd yr achos yn dechrau yn Llys y Goron Caerdydd ar Ionawr 2.
Yn ôl ei gyfreithwyr, mae’n gwadu bod y digwyddiad wedi digwydd o gwbwl.
Fe dreuliodd e saith mlynedd yn gaplan yn y brifysgol cyn mynd i ddysgu athroniaeth a moeseg, a gadael Caerdydd wedyn am Brifysgol Liverpool Hope.
Cafodd ei benodi’n Ganghellor ar Eglwys Gadeiriol Lincoln yn 2017, ond fe fu’n rhaid iddo gamu o’r neilltu ar ôl 14 mis pan gafodd ei gyhuddo gan Heddlu’r De.
Mae wedi’i ryddhau ar fechnïaeth cyn dechrau’r achos llys.