Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi arestio tri dyn yn y Trallwng yn ystod ei gyrch cyffuriau mwyaf erioed.
Aeth 75 o blismyn i faes carafannau Leighton Arches am 7 o’r gloch fore heddiw (dydd Mercher, Rhagfyr 4), ac mae disgwyl iddyn nhw fod yno am rai oriau eto.
Yn ôl yr heddlu, penllanw misoedd o waith ymchwilio i’w cyrch.
Mae dynion 17, 23 a 31 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gyflenwi heroin a chocên, ac maen nhw’n cael eu holi yn y ddalfa.
Mae’r heddlu’n apelio am ragor o wybodaeth wrth i’r ymchwiliad barhau.