Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i “farwolaeth anesboniadwy” cynorthwyydd dysgu ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cafwyd hyd i’r dyn 31 oed, sydd heb ei enwi, yn farw mewn tŷ yn ardal Bracla ddydd Sul (Rhagfyr 1).
Bu’n gweithio yn Ysgol Bryn Castell ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd ar gau i’r holl ddisgyblion heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 2) .
Mewn neges ar wefan yr ysgol ddoe, dywedodd y Pennaeth Helen Ridout:
“Ymddiheuriadau, oherwydd amgylchiadau annisgwyl, mae YBC ar gau i bob disgybl ddydd Llun 2 Rhagfyr 2019.”
Post mortem
Yn ôl adroddiadau ar WalesOnline roedd y dyn wedi cael ei daro â chadair mewn digwyddiad yn ymwneud â disgybl yr wythnos ddiwethaf.
Ond yn dilyn archwiliad post mortem prynhawn ma, dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru na ddaeth o hyd i unrhyw dystiolaeth o ymosodiad nac anaf.
“Mae’r heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn parhau i ymchwilio i farwolaeth sydyn dyn 31 oed a ddarganfuwyd yn farw mewn tŷ yn ardal Bracla fore Sul,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
“Yn dilyn canlyniadau post-mortem a gynhaliwyd heddiw gan batholegydd y Swyddfa Gartref nid oes tystiolaeth i awgrymu ymosodiad neu anaf.
“Bydd cwest i’r farwolaeth yn cael ei gynnal maes o law.”
“Meddyliau gyda’r teulu”
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: “Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ymwybodol o farwolaeth aelod o staff o Ysgol Bryn Castell dros y penwythnos.
“Mae ein meddyliau gyda theulu’r aelod o staff ar yr adeg anodd yma.
“Mae Ysgol Bryn Castell ynghau ar hyn o bryd ac ni allwn roi unrhyw wybodaeth bellach.”
Nododd adroddiad gan Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru, ym mis Ionawr 2019 fod yr ysgol yn dda.
Disgrifiodd Ysgol Bryn Castell fel ysgol arbennig ar gyfer disgyblion rhwng saith a 19 oed ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol ac ystod o anghenion eraill gan gynnwys anhwylder sbectrwm awtistig.
Adeg yr adroddiad, roedd 147 o ddisgyblion yno.