Dywed Heddlu’r Gogledd bod dyn wedi marw ar ôl i’w gar wyro oddi ar yr A55 yn Sir y Fflint neithiwr.
Roedd car y dyn, a oedd yn ei 30au, wedi gadael y ffordd ger Llaneurgain tua 7yh nos Sul (Rhagfyr 1).
Mae’r heddlu’n apelio am dystion i’r digwyddiad.
Mae teulu’r dyn wedi cael gwybod.