Fe fydd cannoedd ar filoedd o deithwyr yn wynebu trafferthion ar y trenau heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 2) wrth i undeb y gweithwyr rheilffyrdd, RMT, ddechrau cyfres o streiciau.
Fe fydd aelodau o’r undeb gyda South Western Railway (SWR) yn dechrau’r cyntaf o 27 diwrnod o weithredu diwydiannol heddiw a fydd yn parhau tan Ddydd Calan.
Maen nhw streicio yn dilyn galwadau’r RMT i gael rheolwyr ar drenau.
Mae teithwyr wedi cael gwybod mai dim ond hanner y gwasanaethau fydd yn cael eu cynnal gan gynnwys rhai i ac o Waterloo yn Llundain, un o’r gorsafoedd rheilffordd brysuraf.
Mae disgwyl i rai gwasanaethau gael eu canslo, bydd bysys yn cymryd lle trenau mewn rhai llefydd a gwasanaethau’n gorffen yn gynt nag arfer.
Roedd trafodaethau rhwng y ddwy ochr wedi dod i ben heb gytundeb wythnos ddiwethaf.