Fe fydd un o bwyllgorau’r Cynulliad yn cynnal ymchwiliad i fethiant cynllun peilot gradd-brentisiaethau.
Mae gradd-brentisiaethau’n cyfuno prentisiaethau traddodiadol a chynlluniau gradd ac maen nhw’n cael eu cynnig mewn dau faes yn unig ar hyn o bryd, sef peirianneg a gweithgynhyrchu pellach.
Pan gawson nhw eu lansio, dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, y bydden nhw’n cynnig ffyrdd ychwanegol o gael mynediad i’r byd gwaith.
Ond mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn gofidio nad yw’r cynllun peilot mor llwyddiannus ag y dylai fod.
Mae ffigurau’n dangos mai dynion yw 80% o’r 155 o brentisiaid cyntaf i gael eu derbyn, ac nad oes gan yr un ohonyn nhw anabledd.
Mae’r pwyllgor yn awyddus i wybod sut mae’r cynllun am helpu pobol o gefndiroedd lleiafrifol amrywiol, a bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar ba mor gost-effeithiol yw’r cynllun, sut cafodd addysgwyr y cyrsiau eu dewis, pa mor llwyddiannus yw dulliau’r Llywodraeth wrth gyflwyno’r cynllun a gwerth gradd-brentisiaethau.
Bydd y pwyllgor yn ceisio barn cyflogwyr, darparwyr addysg a phrentisiaid.
‘Siomedig’
“Mae’r rhaglen gradd-brentisiaeth yn beilot cyffrous ond mae’n bwysig iddi ddechrau yn dda a chynnig cyfleoedd i bawb,” meddai Russell George, cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.
“Mae’n siomedig gweld mai 20% yn unig yw canran y menywod yn y garfan gyntaf.
“Rydym yn awyddus i wybod pam a deall mwy am fynediad grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i’r rhaglen.
“Rydym yn cydnabod potensial gradd-brentisiaethau i newid bywydau, uwchsgilio gweithluoedd a gwella ffyniant ledled Cymru. Mae’n hanfodol bod y swm sylweddol o £20 miliwn a fuddsoddwyd ynddynt yn cael effaith wirioneddol, yn enwedig ar adeg pan fo galw mawr am y rhaglen brentisiaethau ehangach.
“Dyna pam mae ein Pwyllgor yn lansio’r ymchwiliad heddiw, i ddeall beth sy’n digwydd o ran gradd-brentisiaethau ac a ydynt ar y trywydd iawn i gyflawni eu potensial i Gymru.”