Mae Gareth Thomas, cyn-gapten tîm rygbi Cymru a gafodd ddiagnosis o HIV eleni, yn dweud ei fod e’n disgwyl cael ei gofio am godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr yn hytrach na’i orchestion ar y cae rygbi.
Fe fu’n cyfarfod â Dug Sussex yn Twickenham, pencadlys tîm rygbi Lloegr, ar gyfer ffilm arbennig ar drothwy Diwrnod Aids y Byd.
Cyhoeddodd Gareth Thomas yn 2009 ei fod e’n hoyw, ac fe gyhoeddodd ymhellach ym mis Medi ei fod e’n HIV positif ar ôl i bapur newydd tabloid fygwth cyhoeddi’r stori.
Mae’n dweud y bydd ei gabinet tlysau’n “hel llwch” ymhen blynyddoedd ac y bydd pobol yn anghofio amdanyn nhw.
“Ond hoffwn i feddwl i ble’r ydyn ni’n mynd ar y daith addysgol hon, ac mae torri’r stigma am HIV yn rhywbeth fydd yn waddol sy’n mynd i bara am byth,” meddai Gareth Thomas.
Canmol Gareth Thomas
“Rydyn ni’n gwybod fod yffach o lot i’w wneud, ond mae’r hyn rwyt ti wedi llwyddo i’w wneud o fewn chwech i wyth wythnos wedi trawsnewid popeth go iawn,” meddai Dug Sussex.
“Fel dywedaist ti, dylen ni i gyd wybod dy statws di ac os yw’n cael ei drin fel unrhyw firws arall yna, dyna’n union ddylai fod yn digwydd.
“O’m persbectif i, y cyfan alla i ei wneud yw diolch i ti am y gwahaniaeth rwyt ti wedi ei wneud, y bywydau rwyt ti’n eu hachub bob dydd nawr ac fe fydd gennyt ti bob un ohonon ni’n dy gefnogi di yr holl ffordd.
“Dwyt ti ddim ar ben dy hun.”
Daeth cadarnhad fis diwethaf y byddai Comisiwn HIV newydd yn cael ei sefydlu, ac y byddai Gareth Thomas yn aelod o’r comisiwn hwnnw sydd wedi’i sefydlu gan yr Ymddiriedolaeth Aids Genedlaethol.
Yn ôl ystadegau YouGov, mae 74% o bobol yng ngwledydd Prydain yn gwybod fod gan Gareth Thomas HIV.
O’r 2,143 o bobol, roedd 11% yn teimlo bod gwybod am gyflwr Gareth Thomas wedi gwella eu dealltwriaeth o HIV, tra bod 7% yn dweud y byddai’n gwella’r ffordd y bydden nhw’n ymddwyn tuag at rywun â’r cyflwr.
Mae mwy o bobol hefyd yn gofyn am becynnau profi HIV ers gwybod am gyflwr Gareth Thomas.
Stigma o hyd
Ond mae’r ymchwil hefyd yn dangos bod y stigma ynghylch HIV yn parhau.
Dywed 39% y bydden nhw’n teimlo’n anghyfforddus wrth gusanu rhywun â’r cyflwr, tra byddai 29% yn teimlo’n anghyfforddus yn mynd allan â rhywun â’r cyflwr.
Ond yn ôl arbenigwyr, does dim perygl o drosglwyddo HIV drwy gusanu.