Mae dyn wedi marw ar ôl cael ei daro gan gar ar yr M4 yn Abertawe.
Bu farw’r dyn yn y fan a’r lle ar ôl i gar Audi Q3 lliw arian ei daro rhwng cyffordd 47 a chyffordd 48 am oddeutu 4 o’r gloch brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Tachwedd 30).
Bu’n rhaid cau’r draffordd i gyfeiriad y gorllewin am rai oriau er mwyn cynnal ymchwiliad.
Mae Heddlu’r De yn diolch i’r cyhoedd am eu hamynedd, ac yn apelio am wybodaeth.