Mae tîm pêl-droed Cymru wedi cael gwybod pwy fyddan nhw’n herio yng nghystadleuaeth Ewro 2020 haf nesaf.
Byddan nhw yng ngrŵp A gyda’r Swistir, Twrci a’r Eidal, ac yn chwarae yn Baku a Rhufain.
Cafodd yr enwau eu tynnu o’r het yn Bucharest.
Y gemau
Bydd tîm Ryan Giggs yn dechrau yn erbyn y Swistir yn Baku ar Fehefin 13.
Bedwar diwrnod yn ddiweddarach, byddan nhw’n herio Twrci yn yr un lleoliad.
Y tro diwethaf i Gymru herio Twrci, enillon nhw o 6-4 yn y gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 1998, wrth i Hakan Sukur sgorio pedair gôl.
Roedden nhw’n fuddugol y tro diwethaf iddyn nhw wynebu’r Swistir hefyd, o 2-0 mewn gêm ragbrofol ar gyfer Ewro 2012 ym mis Hydref 2011, wrth i Aaron Ramsey a Gareth Bale sgorio.
Bydd eu gemau grŵp yn dod i ben gyda gornest yn erbyn yr Eidal yn Rhufain ar Fehefin 21.
BAKU. BAKU. ROME.
IN THAT ORDER.#TogetherStronger #TheRedWall#EURO2020 pic.twitter.com/oGUmoVYBnF— Wales 🏴 (@Cymru) November 30, 2019
Y grwpiau’n llawn
Grŵp A: Yr Eidal, Y Swistir, Twrci, CYMRU
Grŵp B: Gwlad Belg, Rwsia, Denmarc, Y Ffindir
Grŵp C: Yr Wcráin, Yr Iseldiroedd, Awstria, Gêm ail gyfle A/D
Grŵp D: Lloegr, Croatia, Gweriniaeth Tsiec, Gêm ail gyfle C
Grŵp E: Sbaen, Gwlad Pwyl, Sweden, Gêm ail gyfle B
Grŵp F: Yr Almaen, Ffrainc, Portiwgal, Gêm ail gyfle A/D