Mae dyn 80 oed o Geredigion wedi cael ei garcharu am ladd ei wraig.

Fe wnaeth Frank Long dagu ei wraig Mavis, 77, yn dilyn ffrae yn eu cartref yn ardal Pennant.

Plediodd yn euog i’w dynladdiad, ac fe gafodd ei garcharu yn Llys y Goron Abertawe am gyfnod o dair blynedd a phedwar mis.

Clywodd y llys ei fod e wedi cael anhawster ymdopi â’i wraig oedd yn dioddef o glefyd Alzheimer, a’u bod nhw wedi ffraeo ar y diwrnod y bu farw.

Ond dywedodd y barnwr Paul Thomas nad oedd yn cyfiawnhau ei lladd hi, er nad dyna roedd e wedi bwriadu ei wneud.