Fe ddaeth i’r amlwg bellach fod gan Usman Khan, ymosodwr brawychol Llundain, gysylltiadau â Chymru.

Fe wnaeth y dyn 28 oed drywanu dau o bobol i farwolaeth ac anafu nifer o bobol eraill ar bont London Bridge brynhawn ddoe (dydd Gwener, Tachwedd 29) cyn i’r heddlu ei saethu’n farw.

Daeth cadarnhad ers hynny ei fod e wedi treulio cyfnod yn y carchar ers 2012 am ei ran mewn cynllwyn i ymosod ar y Gyfnewidfa Stoc, a’i fod e wedi’i ryddhau ar drwydded fis Rhagfyr y llynedd.

Roedd nifer o bobol ynghlwm wrth y cynllwyn yn 2012, gan gynnwys tri dyn o Gaerdydd.

Mae lle i gredu eu bod nhw hefyd wedi trafod ymosod ar sawl tafarn yn ardal Stoke, a sefydlu gwersyll i hyfforddi jihadwyr Pacistan.