Mae dyn 22 oed wedi cael ei gadw yn y ddalfa, ar ol iddo wadu llofruddio ei gariad yng Nghaerdydd ym mis Ebrill eleni.

Fe ddaethpwyd o hyd i auren Griffithhs, 21, yn farw yn eu fflat yn ardal Cathays.

Mae Madog Llewellyn Rowlands o Wrecsam wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd heddiw (dydd Iau, Tachwedd 28) wedi’i gyhuddo o lofruuddio ei gariad. Fe blediodd yn ddieuog.

Mae wedi cael ei gadw yn y ddalfa, nes y mae disgwyl iddo sefyll ei brawf yn ystod mis Ebrill 2020.