Mae Heddlu’r De wedi dweud wrth Golwg360 heddiw eu bod yn “gweithio gydag asiantaethau i nodi safleoedd lle gall hen bosteri atal treisio fodoli ac i sicrhau eu bod yn cael eu symud.”

Daw hyn yn dilyn sawl neges negyddol ar wefan Twitter ddoe ynghylch poster atal treisio sy’n galw ar ferched “i yfed yn synhwyrol”  a  “pheidio â bod yn ddioddefwraig.”

Mae wyneb dynes ar y poster gyda’r geiriau “Treisio – Peidiwch â bod yn ddioddefwraig, yfwch yn synhwyrol. Mae alcohol yn ffactor mewn dwy ran o dair o achosion treisio.”

Mae logos Abertawe Mwy Diogel, Heddlu De Cymru a sefydliad cymorth ‘New Pathways’ ar y poster. Mae’n rhan o ymgyrch Cadw De Cymru yn ddiogel.

Ddoe, fe ddywedodd  Bethan Jenkins, AC wrth Golwg360 ei bod yn “ddig” ac yn bwriadu “cysylltu gyda’r Heddlu” ar ôl gweld poster atal treisio “hollol annerbyniol” ar wefan Twitter. “Mae’r neges ar y poster yr un mor sarhaus, gan ddweud wrth fenywod am ‘beidio bod yn ddioddefrwaig’. Pwy fyddai eisiau dioddef o’r trais yma, wedi’r cyfan? Mae’n hollol hurt,” meddai’r AC.

Ymateb Heddlu’r De…

Fe ddywedodd Heddlu’r De wrth Golwg360 fod y poster yn  ymwneud ag ymgyrch genedlaethol a gafodd ei lansio cyn Adroddiad Stern sydd, yn ei dro, wedi dylanwadu ar y ffordd mae’r Heddlu’n ymdrin â dioddefwyr trais rhywiol.

“Mae’r feddylfryd wedi esblygu ac nid bwriad yr ymgyrch hon oedd dangos dioddefwyr fel eu bod nhw ar fai,” meddai’r Uwch-arolygydd Lorraine Davies o Heddlu De Cymru.

“Roedd hwn yn boster hen ymgyrch oedd wedi’i dynnu’n ôl, ond yn anffodus mae’n ymddangos ei fod wedi’i weld mewn mannau yn Ne Cymru.”

Fe ddywedodd Heddlu’r De eu bod ynghyd â’u partneriaid wedi gwneud “gwaith sylweddol” i sicrhau bod gan ddioddefwyr “yr hyder i adrodd achosion” a bod ymgyrchoedd ers hyn, wedi canolbwyntio ar “y sawl sy’n cyflawni’r drosedd.”

“Mae’n bwysig fod pobl yn sylweddoli nad yw’r meddylfryd hon yn un gyfredol gan y bydd hyn yn effeithio ar ymddiriedaeth a hyder dioddefwyr i ddod ymlaen,” meddai’r Heddlu cyn dweud y byddan nhw’n gweithio gydag asiantaethau i symud y posteri hyn o safleoedd lle gallan nhw  dal i fodoli.

Twitter – ‘Pryder’

Mae Prif Weithredwr New Pathways, sefydliad sy’n helpu pobol sydd wedi cael eu treisio, wedi dweud wrth Golwg360 ei bod yn “pryderu” am yr effaith posibl y gallai’r poster ei gael ar ddioddefwyr.

Yn ôl Jackie Stamp, Prif Weithredwr ‘New Pathways’ mae’r poster yn rhan o “hen ymgyrch” ar draws Cymru a Lloegr rhwng 2008 a 2009 oedd yn ceisio mynd i’r afael ag alcohol fel ffactor mewn treisio. Mae’r Prif Weithredwr yn  pwysleisio nad yw New Pathways yn cefnogi neges y poster.

“Dw i’n credu bod y ffordd yr oedd pobl yn meddwl am dreisio ar draws y sector dair, bedair blynedd yn ôl yn wahanol,” meddai Prif Weithredwr New Pathways wrth Golwg360 cyn egluro bod “shifft ddiwylliannol” enfawr wedi bod ym meddylfryd sefydliadau am dreisio.

“Dw i’n credu bod llawer o waith wedi’i wneud yn y pedair blynedd ddiwethaf i fynd i’r afael â hysbysebu a’r ffordd mae’n cael ei bortreadu yn y wasg… Fydden ni byth yn cefnogi unrhyw ymgyrch sy’n beio dioddefwyr am y drosedd. Mae’n bwysig bod ni’n trosglwyddo’r neges hon.

“Dw i’n pryderu’n fawr fod rhywbeth fel hyn – pan mae’n taro gwefannau rhyngweithio fel Twitter, yn gwneud llawer o niwed yng nghyd-destun ymddiriedaeth,” meddai.

‘Cefnogaeth’

Dywedodd Jackie Stamp ei bod eisiau pwysleisio nad yw New Pathways yn rhoi’r bai ar ddioddefwyr.

“Rydan ni’n helpu pobl sydd wedi’u heffeithio gan dreisio. Dw i’n gobeithio na fydd dioddefwyr yn peidio dod ymlaen oherwydd yr hen boster yma sy’n rhoi camargraff. Nid yw’n adlewyrchiad o feddylfryd cyfoes. Os ydach chi angen cymorth   – mae’r gefnogaeth yno i chi, edrychwch amdano”.