Cafodd dyn  39 oed ei gyhuddo neithiwr o yrru cerbyd 4×4 mewn modd peryglus a gyrru cerbyd ar dir comin, meddai Heddlu’r Gogledd.

Fe ddywedodd yr Heddlu fod y dyn wedi’i ryddhau ar fechnïaeth i ymddangos gerbron Llys Ynadon Caernarfon ar 4 Tachwedd.

Fe gafodd cerbyd 4×4 ei symud o gopa’r Wyddfa am yr eil dro ar 3 Hydref.

Fe wnaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gymryd meddiant o’r cerbyd.

Eisoes, fe ddywedodd Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Aneurin Phillips wedi’r ail ddigwyddiad fod “ymddygiad” fel hwn yn “ anghyfrifol ac yn hollol annerbyniol”.