Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw’r dyn gafodd ei lofruddio yn dilyn digwyddiad yn Ffordd Talargoch, Galltmelyd ddydd Mawrth. Roedd Gabor Peter Sarkozi, 38 oed, yn dod o Hwngari ac wedi bod yn byw yn y Rhyl.

Roedd yn cael ei gyflogi fel gyrrwr i fwyty prydau cyflym Tsieineaidd Happy Garden ac roedd yn gweithio ar y noson y cafodd ei ladd.

Mae archwiliad post mortem wedi dangos ei fod wedi marw o ganlyniad i anafiadau difrifol i’w ben.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn credu bod dau ddyn wedi ymosod ar Gabor Sarkozi yn  Ffordd Talargoch ond nad ydyn nhw’n gwybod beth oedd y cymhelliad y tu ôl i’r ymosodiad hyd yn hyn.

Mae ei deulu yn Hwngari wedi cael gwybod am ei farwolaeth ac yn helpu’r heddlu gyda’u hymchwiliad.

Mae’r ddau ddyn gafodd eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi bod gerbron llys yn Llandudno heddiw ac mae’r heddlu wedi cael caniatâd i’w holi am 36 awr ychwanegol.

Mae ymchwiliadau’r heddlu’n parhau o dŷ i dŷ o gwmpas pentref Galltmelyd ac mae’r heddlu’n apelio am dystion i’r digwyddiad rhwng 10pm a 10.45pm ar nos Fawrth, 18 Hydref.

Mae’r Heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101 os yng Nghymru neu 0845 607 1001 (Llinell Gymraeg) 0845 607 1002 (Llinell Saesneg). Gellir hefyd ffonio Taclor’ Tacle’ yn ddienw ar 0800 555 111.