Mae adroddiadau am ddamwain awyren fechan yn y môr yn ardal Ynys Môn prynhawn ma (dydd Llun, Tachwedd 25).

Mae’r gwasanaethau brys yn ymateb i’r digwyddiad ger Ynys Seiriol. Cafodd yr awyren ei gweld ddiwethaf ddwy filltir i’r gogledd ddwyrain o Benmon ar ol colli cysylltiad radar tua 12.47pm.

Cafodd tri bad achub o Landudno, Moelfre a Biwmares ynghyd a hofrennydd o Gaernarfon eu galw i’r digwyddiad am 12.57pm heddiw.

Mae criwiau o wirfoddolwyr wedi bod yn chwilio’r ardal o gwmpas Penmon ac mae timau bad achub o Benmon a Bangor hefyd wedi ymuno yn y chwilio.

Nid yw’n glir ar hyn o bryd faint o bobol oedd ar fwrdd yr awyren.

Dywedodd y Gangen Ymchwiliadau Damweiniau Awyr (AAIB) eu bod nhw “wedi anfon tîm i ymchwilio i’r ddamwain yn ymwneud ag awyren fechan ger Biwmares.”