Mae arolwg gan gwmni ailgylchu ffonau symudol Mazuma Mobile yn awgrymu bod 90% o’r Cymry wedi prynu nwyddau ail-law – y ganran uchaf trwy wledydd Prydain.
Ac mae’r cwmni yn amcangyfrif bod gwerth £13 biliwn o nwyddau ail-law yn llechu mewn cypyrddau a drôrs yng ngwledydd Prydain.
Mi holodd Mazuma Mobile 2,000 o bobol ledled gwledydd Prydain am eu harferion prynu yn ail-law.
Y gwerthwyr gorau yw llyfrau ail-law, gyda 68% o’r rhai holwyd wedi gwneud hynny. Roedd 62% wedi prynu ceir ail-law a 49% wedi prynu dodrefn ail-law.
Roedd gan 34% ffonau symudol ail-law ac roedd 4% yn cyfaddef eu bod yn gwisgo dillad isaf ail-law.
Dywedodd 86% o ferched eu bod wedi prynu nwyddau ail-law, o gymharu gyda 73% o ddynion.