Creu “chwyldro swyddi gwyrdd” gyda buddsoddiad gwerth £20 biliwn fydd wrth wraidd maniffesto Plaid Cymru sy’n cael ei lansio heddiw (dydd Gwener, Tachwedd 22).
Fe fydd arweinydd y blaid Adam Price yn lansio maniffesto’r blaid ar gyfer yr etholiad cyffredinol yn Nantgarw, Rhondda Cynon Taf bore ma.
Mae’r cynlluniau uchelgeisiol yn cynnwys buddsoddiad helaeth mewn trafnidiaeth gyhoeddus a thri chynllun morlyn llanw’r môr ym Mae Abertawe, Caerdydd a Bae Colwyn.
Bwriad yr agenda yw gwneud Cymru 100% yn hunan-gynaliadwy o ran ynni adnewyddadwy erbyn 2030 a chreu degau ar filoedd o swyddi dros y 10 mlynedd nesaf.
Yn ei maniffesto, mae’r blaid yn gal war Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi 1% ychwanegol o GDP i fuddsoddi mewn isadeiledd gwyrdd dros y ddegawd nesaf er mwyn i Gymru allu gwario £15bn ar greu swyddi gwyrdd, trafnidiaeth ac ynni.
Mae disgwyl i Adam Price ddweud bod gan Gymru “botensial enfawr – ry’n ni’n gyfoethog mewn adnoddau naturiol ac mae gynnon ni bobl dalentog sydd â sgiliau.”
Ychwanegodd y gallai Cymru greu miloedd o swyddi gwyrdd gan fynd i’r afael a’r argyfwng hinsawdd ar yr un pryd.
Ymhlith y cynlluniau polisi ym maniffesto Plaid Cymru mae:
· Trydaneiddio’r holl brif reilffyrdd erbyn 2030 a thrydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd ac wedyn arfordir gogledd Cymru.
· Adeiladu metro yn ne ddwyrain Cymru, system metro newydd ym Mae Abertawe, a metro ar gyfer gogledd ddwyrain Cymru, yn ogystal ag ail-agor gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghwm Aman, Tawe, Castell-nedd a Dulais.
- Ehangu’r rhwydwaith bysys gyda bysys yn defnyddio ynni adnewyddadwy, a chwmni bws newydd mewn perchnogaeth gyhoeddus ar gyfer de Cymru.
- Adeiladu tri morlyn llanw’r mor ym Mae Abertawe, Caerdydd a Bae Colwyn a fferm wynt ger arfordir Ynys Mon.
- Adeiladu 20,000 o dai cymdeithasol gwyrdd.