Mae Cymwysterau Cymru wedi cael eu cyhuddo o gynllunio i gadw Cymraeg Ail Iaith mewn ysgolion, yn groes i bolisi’r Llywodraeth.
Mewn dogfen ymgynghori ar gymwysterau newydd, mae Cymwysterau Cymru yn rhoi addewid i gynnal ymgynghoriad ar y Gymraeg ynghylch “cymwysterau i gefnogi’r continwwm ar gyfer dysgu’r Gymraeg.”
Mae’r cyfeiriad at fwy nag un cymhwyster wedi codi amheuon ymysg ymgyrchwyr bod y corff yn bwriadu gweithredu’n groes i bolisi Llywodraeth Cymru.
Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i ddisodli Cymraeg ail iaith gydag un continwwm o ddysgu Cymraeg ac un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl.
“Pryder mawr”
Dywed Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol: “Mae hyn yn destun pryder mawr. Mae’n edrych fel bod Cymwysterau Cymru, unwaith eto, yn mynd ati i gadw Cymraeg Ail Iaith a hynny yn gwbl groes i bolisi’r Llywodraeth a dyheadau pobl Cymru.
“Yn 2013, dywedodd panel o arbenigwyr o dan arweiniad Yr Athro Sioned Davies bod angen dileu Cymraeg Ail Iaith fel mater ‘brys’, ac erbyn 2018 ar yr hwyraf. Ac, ers 2015, dyna yw polisi’r Llywodraeth, ac, yn wir y consensws gwleidyddol drwyddi draw.
“Fodd bynnag, dyma ni, yn 2019, yn wynebu corff sydd ddim yn edrych fel eu bod eisiau dileu Cymraeg Ail Iaith o gwbl.”
Ychwanegodd: “Mae’n annerbyniol ein bod ni’n wynebu’r posibiliad bod cenhedlaeth arall o blant Cymru’n mynd i gael eu methu gan ein system addysg oherwydd difaterwch Cymwysterau Cymru am y Gymraeg a chyrhaeddiad ein pobl ifanc.”
Mae Cymwysterau Cymru yn cynnal ymgynghoriadau ar natur y cymwysterau fydd yn dod i rym yn dilyn newid cwricwlwm ysgolion yn 2022. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am beilota cymhwyster Cymraeg newydd cyn y dyddiad yna er mwyn hwyluso disodli Cymraeg ail iaith gydag un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl.