Mae pobol ifanc mewn perygl o golli eu cyfle i gymryd rhan yn yr Etholiad Cyffredinol, medd y Comisiwn Etholiadol. Mae eu hymchwil yn dangos bod traean o bobl ifanc heb gofrestru i bleidleisio.
Yn ôl yr un ymchwil a gynhaliwyd gan y Comisiwn, mae lefelau cofrestru yn isel ymhlith pobol ifanc. Dim ond 74% o’r rhai 25-34 oed sydd wedi’u cofrestru’n gywir, gan ostwng i 68% ymhlith y rhai 20-24 a 66% ymhlith y rhai 18-19 oed.
Mae cyfraddau cofrestru yn sylweddol uwch ar gyfer y rhai 65 oed a hŷn, sef 94%.
Rhaid i unrhyw un sydd am bleidleisio yn etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig ddydd Iau, Rhagfyr 12 gofrestru erbyn dydd Mawrth Tachwedd 26.
“Colli cyfle”
Dywedodd Craig Westwood, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil yn y Comisiwn Etholiadol:
“I rai pobol ifanc dyma fydd eu cyfle cyntaf i gymryd rhan mewn etholiad, ond mae’n bwysig nad ydyn nhw’n colli’r cyfle. Mae ein hymchwil yn dangos bod pobol ifanc yn llawer llai tebygol o fod wedi cofrestru i bleidleisio.
“Dim ond pum munud y mae’n ei gymryd i gofrestru i bleidleisio ar-lein – amser y byddech fel arall yn ei dreulio yn aros i’r tegell ferwi neu i ddosbarth ffitrwydd ddechrau. Felly os ydych chi am sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed, ewch ar-lein a chofrestrwch nawr. ”
Gall myfyrwyr sy’n gorffen eu tymor gaeaf yn y brifysgol gofrestru yng nghyfeiriad eu tymor a’u cyfeiriad cartref, ac yna gallan nhw ddewis ym mha etholaeth y maen nhw am bleidleisio ynddo.