Mae ffatri geir yn Rhydaman wedi “ymyrryd â rhyddid” gweithwyr ac wedi “dieithrio siaradwyr Cymraeg” yn y gweithle, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.
Aeth dau o weithwyr ffatri Pullmaflex at swyddfa Aled Roberts ar ôl derbyn cyfarwyddyd gan benaethiaid cwmni Leggett & Platt Automotive i beidio â siarad Cymraeg yn ystod oriau gwaith.
Yn ôl Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, mae gan bobol yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg wrth gyfathrebu â’i gilydd ac mae gan y Comisiynydd y grym i ymchwilio os yw’n teimlo bod ymyrraeth â’r rhyddid hwnnw.
Fel rhan o’r ymchwiliad, cafodd y Comisiynydd wybod fod y cwmni sy’n berchen y ffatri’n “disgrifio’r Saesneg fel iaith ddymunol y busnes a gofyn i siaradwyr Cymraeg osgoi defnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd o fewn oriau gwaith”.
Pryderon am iechyd a diogelwch a chreu diwylliant cynhwysol yw’r rhesymau sy’n cael eu rhoi.
Ond mae’r comisiynydd wedi dyfarnu yn erbyn Leggett & Platt Automotive.
‘Dieithrio siaradwyr Cymraeg’
Yn ôl y comisiynydd, mae penderfyniad y penaethiaid wedi gwneud i’r gweithwyr “deimlo’n ddig ac yn nerfus o ddefnyddio’r iaith”.
“Mae nifer o siaradwyr Cymraeg yn gweithio yn y ffatri, ac mae hi’n naturiol eu bod nhw’n defnyddio’r iaith gyda’i gilydd yn y gwaith,” meddai.
“Fe wnaeth y cyfarwyddyd achosi iddyn nhw deimlo’n ddig ac yn nerfus o ddefnyddio’r iaith.
“Ni wnaeth y cwmni gyflwyno tystiolaeth oedd yn fy argyhoeddi bod unrhyw gyfiawnhad iechyd a diogelwch dros osod gwaharddiad cyffredinol ar ddefnyddio’r Gymraeg; ac nid wyf o’r farn fod gosod gwaharddiad ar ddefnyddio’r Gymraeg yn gydnaws â chreu diwylliant cynhwysol.
“Yn wir, dangosodd yr ymchwiliad bod cyfarwyddyd y cwmni wedi creu’r effaith groes o ddieithrio siaradwyr Cymraeg.
“Mae’n siomedig na all cwmni rhyngwladol yn yr unfed ganrif ar hugain weld rhinweddau gweithlu amrywiol ei hiaith lle caiff yr iaith Gymraeg ei defnyddio yn gwbl naturiol.
“Er mwyn creu gwir ddiwylliant gynhwysol mae’n hanfodol, yn fy marn i, bod gan gwmni weledigaeth sy’n croesawu, ac wir yn dathlu, amrywiaeth ieithyddol ei gyflogeion.”